Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd

Feb 13th – Butterfly Soup: LGBTQ+ Community Weekly Meet ups

Feb 13th – Butterfly Soup: LGBTQ+ Community Weekly Meet ups

£0.00£5.00

Butterfly Soup: An LGBTQIA+ creative project:
Nod y prosiect yw dod at ein gilydd i ddefnyddio ioga, dawns ac arddulliau creadigol eraill i adeiladu sylfaen cymuned. Bydd y prosiect yn ein caniatáu ni i ddangos a derbyn ein gwir hunaniaeth queer.
When? Weekly meet ups, Mondays 7:30pm, Starting 9th January 2023.

Butterfy Soup: Prosiect creadigol LGBTQIA+
Nod y prosiect yw dod at ein gilydd i ddefnyddio ioga, dawns ac arddulliau creadigol eraill i adeiladu sylfaen cymuned. Bydd y prosiect yn ein caniatáu ni i ddangos a derbyn ein hunaniaeth hoyw.
Pryd? Cyfarfodydd wythnosol, bob dydd Llun 7:30pm, yn dechrau ar 9 Ionawr 2023.

NOTE: If you are deaf or hard of hearing and require BSL communication support, please book your ticket by 2pm on the day of the class.

This product is currently out of stock and unavailable.

Butterfly Soup: An LGBTQIA+ creative project:

What will we do? Take an hour to meet weekly in a safe space and get to know new people. Our participants often say the “meet ups” are just as fun as the creative activities.

Who is running the sessions? Ardour Academy is delivering this project with the help of Mike Williams and a rage of different visiting creatives. This way you get to have consistency with Mike each week who will become a familiar and friendly face; and you will get to experience lots of lovely practitioners based in Wales.

Who is the session suitable for? This is an LGBTQIA+ project and welcomes anyone who identity as LGBTQIA+ or wondering about their sexuality and/or identity . A Queer friendly space; allies are welcome.
How much? This project is free to join

Each year different groups have created different things: from short films, to a photography exhibition and fantastic costumes. You can choose to be a part of the creative outcome or just attend weekly session. It really is all about having fun and meeting new people.
You don’t need any experience in yoga, movement or creative outlets. We would also welcome you if you are an experienced mover and a creative. All abilities are welcome.
This project welcomes deaf and hard of hearing LGBTQIA+ individuals. We will have a British Sign Language support person each session, for anyone who is deaf or hard of hearing.
This Project is hosted by Ardour Academy and funded by Arts Council of Wales.

..........................................................

Butterfy Soup: Prosiect creadigol LGBTQIA+

Beth fyddwn yn ei wneud? Treulio awr bob wythnos mewn man diogel a dod i adnabod pobl newydd.
Mae ein cyfranogwyr yn aml yn dweud bod y “cyfarfodydd” yr un mor ddiddorol â’r gweithgareddau creadigol.
Pwy fydd yn rhedeg y sesiynau hyn? Ardour Academy sy’n cyflwyno’r prosiect hwn gyda chymorth Mike Williams ac amrywiaeth o weithwyr creadigol achlysurol. Drwy wneud hyn, byddwch yn cael cysondeb gyda Mike bob wythnos, fydd yn dod yn wyneb cyfarwydd a chyfeillgar; a byddwch yn cael profiadau ag ymarferwyr LGBTQIA+ sy’n gweithio yng Nghymru.
Pwy all gymryd rhan yn y sesiwn? Mae hwn yn brosiect LGBTQIA+, a chroesewir unrhyw un sy’n ystyried eu hunain yn unigolyn LGBTQIA+, neu sy’n ansicr ynghylch eu rhywioldeb a/neu hunaniaeth. Gofod cwiar-gyfeillgar, rydym yn croesawi cynghreiriaid.
Bob blwyddyn, mae grwpiau gwahanol yn creu gwahanol bethau: o ffilmiau byr, i arddangosfa ffotograffiaeth a gwisgoedd gwych. Gallwch ddewis bod yn rhan o’r gwaith creadigol neu fynychu sesiynau wythnosol. Mae popeth yn canolbwyntio ar fwynhau a chwrdd â phobl newydd.
Nid oes angen unrhyw brofiad arnoch o ioga, symudiad neu sesiynau creadigol. Byddwn hefyd yn eich croesawu chi os ydych yn symudwr a gweithiwr creadigol profiadol. Rhoddir croeso i bawb o bob gallu.
Mae’r prosiect hwn yn croesawu unigolion LGBTQIA+ byddar neu drwm eu clyw. Bydd gennym unigolion yn cynnig Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer unrhyw un sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.
Gellir ymuno â'r prosiect am ddim.
Cyflwynir y Prosiect hwn gan Ardour Academy ac fe’i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.

FAQ: What is contemporary dance?

Mae natur dawns gyfoes yn wrthryfelgar! Fe'i crëwyd mewn ymateb i reolau tyn bale a mathau eraill o ddawns. Mae'n fynegiannol, ac wedi ei hysbrydoli gan amrywiol fathau o ddawns ond yn bwysicaf oll mae' n rhoi rhyddid i chi ddehongli symudiad yn eich ffordd unigryw chi eich hun.

0
    0
    Your Bag
    Your bag is emptyAll Classes & Events