Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
1920s Party with live piano, costumes & cocktails1920s Party with live piano, costumes & cocktails
£12.00
DYDD GWENER, 7 GORFFENNAF, 2023 O 20:30-23:00
Digwyddiad Codi Arian Thema’r 1920au, â thro unigryw!
Canu’r piano’n fyw gyda Julian Martin yng nghwmni’r Swing Project.
Croeso i’n digwyddiad cyntaf yr haf i godi arian. Bydd Julian Martin yn canu’r piano’n fyw, cyn set DJ gan y Swing Project.
Gwisgwch yn grand o’ch co’ a dewch i brofi’r 1920au am un noson yn unig.
Mae Academi Ardour yn sefydliad nid er elw a bydd yr holl arian yn mynd tuag at ein prosiectau cymunedol.
Bydd Gwobrau Raffl anhygoel ar gael ar y noson (£5 y stribed)
Digwyddiad Codi Arian Thema’r 1920au, â thro unigryw
Nid yn unig bydd Julian yn chwarae ei hoff ganeuon, bydd hefyd yn cymryd ceisiadau os ydych yn fodlon rhoi pum punt yn y pot codi arian!
Mae hwn yn ddigwyddiad cymunedol hyfryd lle bydd cyfle i ni gyd ddod at ein gilydd i wrando ar gerddoriaeth wych, ymlacio yn ein seddi, neu gael dawns fach a chodi arian ar gyfer ein prosiectau cymunedol.
Bydd gennym fwydlen goctel arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn, yn ogystal â’n diodydd arferol, a’n te a choffi poblogaidd.
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: Who can attend Ardour Academy’s classes and events
Everyone is welcome at Ardour Academy! We are proud of our inclusive environment and encourage people of all backgrounds and abilities to join us.