Rydym yn falch o fod yn sicrhau bod ein gwefan ar gael yn Gymraeg.

Mae’r wefan yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac nid yw'n edrych yn berffaith. Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn ac rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu'r wefan orffenedig gyda chi yn fuan iawn!

Croeso i'n gwefan. Diolch am gymryd yr amser i ddysgu mwy am ein gwaith.

Sefydlwyd Ardour yn 2018 fel sefydliad nid er elw er mwyn uno ein cymuned a dathlu cryfder a chreadigrwydd o fewn ein cymuned. Mae integreiddio, cynwysoldeb, a derbyn wrth wraidd Ardour. Rydym yn credu bod cael lle diogel a theimlo’n rhan o gymuned yn hanfodol i’n llesiant meddyliol a chorfforol. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd creadigol a therapiwtig ac yn gweithio gyda’n cymuned i gynnig y gwasanaethau sydd eu hangen mwyaf. Mae hyn yn cynnwys amserlen gwersi wythnosol, prosiectau creadigol, cwnsela, mentrau Llesiant yn y Gweithle, a digwyddiadau cymunedol. Yn ddiweddar, rydym wedi addo gwneud ein gwasanaethau’n hygyrch i bobl fyddar neu drwm eu clyw yn ein cymunedau. Fel rhan o'r addewid hwnnw, mae ein staff a gwirfoddolwyr yn dysgu Iaith Arwyddion Prydain ac yn gweithio tuag at normaleiddio defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn ein gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Dewch draw i ddweud helo. Rydym wedi ein lleoli ar Heol Wellfield yng Nghaerdydd, ond rydym yn croesawu ymwelwyr o ledled Cymru a thu hwnt.

Gallwch rannu eich barn ar y prosiectau sy’n cael eu cynnig drwy anfon e-bost atom:
info@ardouracademy.com
A/neu gwblhau arolygon cymunedol:
ardouracademy.com/about/help/