Mae Jo Fong yn cynnig ein Sesiwn ‘Butterfly Soup’ ddydd Llun 15 Ebrill, 7:30pm.
Dyma ddisgrifiad Jo o’i sesiwn:
“Ydw i’n canolbwyntio ar un peth o gwbl? Pur anaml. Rwy’n aml yn cwestiynu ac yn ail-ofyn pam fyddwn i'n symud. Mae gen i lawer o resymau.
Nos Lun yma, hoffwn roi sylw i
Symud i Orffwys
Efallai na fydd Symud i Orffwys yn edrych fel Gorffwys”
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid unwaith eto i gynnig ein prosiect rhagorol 'Butterfly Soup'.
Mae Butterfly Soup yn "fan creadigol cwiar sy'n ein dwyn ynghyd, yn ein cysylltu ac yn rhoi cyfleoedd inni fod yn greadigol.". Rydym hefyd yn croesawu cynghreiriaid LHDTCRhA.
Cost:
Cynhelir y gweithgareddau yn seiliedig ar gyfraniadau, drwy ein gwefan. Gallwch ddewis unrhyw swm, o £0 i £5. Rydym eisiau sicrhau bod y gweithgareddau mor hygyrch â phosib.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni!