Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Belly Dance gyda Laura: coreograffi gorchudd clasurol - Mawrth 2025Belly Dance gyda Laura: coreograffi gorchudd clasurol - Mawrth 2025
£10.00 – £25.00
Cynhelir dosbarthiadau Bolddawnsio gyda Laura mewn blociau o 3 wythnos yn Academi Ardour bob mis! 🧡
Bydd y bloc 3 wythnos nesaf yn dechrau ar 6, 13 & 20 Mawrth. Gallwch brynu’r sesiynau fel cwrs neu gallwch eu hystyried fel sesiynau galw heibio.
We will be learning a classic veil choreography!
Cost: £25 am floc o 3 wythnos neu £10 am sesiwn galw heibio
Amser: Nos Iau 7.30-8.30pm
Lleoliad: Academi Ardour, Heol Wellfield, CF24 3PE
Belly Dance gyda Laura: coreograffi veil clasurol
Gwisgwch ddillad cyfforddus. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dawnsio’n droednoeth, ond mae croeso ichi wisgo hosanau neu esgidiau cyfforddus. Mae’n bwysig ichi deimlo’n hapus ac yn gyfforddus 😊
Ynglŷn â Laura:
Maya Fusion Dance yw’r enw ffitrwydd a pherfformio bolddawnsio a grëwyd gan Laura. Mae Laura wedi bod yn folddawnswraig ers mwy na 15 mlynedd. Dechreuodd folddawnsio i gael ei chefn ati ar ôl salwch difrifol. Cynigiodd bolddawnsio gyfle iddi gryfhau a gwella’i hyblygrwydd mewn ffordd ddiogel, a llwyddodd i danio ynddi gariad at ddawnsio. Mae hi wedi bod yn addysgu ers oddeutu 6 blynedd ac mae hi wedi perfformio’n broffesiynol ar hyd a lled y wlad. Laura hefyd yw cyd-sylfaenydd y grŵp dawnsio a pherfformio Ember Collective, ac mae’n perfformio gyda thân.
☆ ☆ ☆
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: Do you offer any scholarships or discounts
We believe in making the arts accessible to everyone. Depending on funding and availability, we may offer scholarships or discounts. Please contact us for more information.