Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Belly Dance Course with Laura – Jan 2025Belly Dance Course with Laura – Jan 2025
£10.00 – £25.00
Cwrs Dawns Bol gyda Laura
Gwisgwch ddillad cyfforddus. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dawnsio’n droednoeth, ond mae croeso ichi wisgo hosanau neu esgidiau cyfforddus. Mae’n bwysig ichi deimlo’n hapus ac yn gyfforddus 😊
Ynglŷn â Laura:
Maya Fusion Dance yw’r enw ffitrwydd a pherfformio bolddawnsio a grëwyd gan Laura. Mae Laura wedi bod yn folddawnswraig ers mwy na 15 mlynedd. Dechreuodd folddawnsio i gael ei chefn ati ar ôl salwch difrifol. Cynigiodd bolddawnsio gyfle iddi gryfhau a gwella’i hyblygrwydd mewn ffordd ddiogel, a llwyddodd i danio ynddi gariad at ddawnsio. Mae hi wedi bod yn addysgu ers oddeutu 6 blynedd ac mae hi wedi perfformio’n broffesiynol ar hyd a lled y wlad. Laura hefyd yw cyd-sylfaenydd y grŵp dawnsio a pherfformio Ember Collective, ac mae’n perfformio gyda thân.
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: What is contemporary dance?
Mae natur dawns gyfoes yn wrthryfelgar! Fe'i crëwyd mewn ymateb i reolau tyn bale a mathau eraill o ddawns. Mae'n fynegiannol, ac wedi ei hysbrydoli gan amrywiol fathau o ddawns ond yn bwysicaf oll mae' n rhoi rhyddid i chi ddehongli symudiad yn eich ffordd unigryw chi eich hun.