Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Butterfly Soup with Jodi – Mar 17thButterfly Soup with Jodi – Mar 17th
Mae Jodi yn hwyluso Butterfly Soup ar ddydd Llun 17 Mawrth 7-8:30pm 🦋
Mae ymarfer creadigol Jodi, er yn amlddisgyblaethol, wirioneddol wedi ei wreiddio yn y corff.
Mae ganddi ddiddordeb yn y tebygrwydd rhwng byrfyfyrio symud ac ysgrifennu rhydd. Sut y gall symud yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau ganiatáu i chi gysylltu â’ch hun, neu fel arf creadigol i egluro syniadau.
Darperir unrhyw ddeunyddiau sydd eu hangen, felly dewch â’ch chwilfrydedd hefo chi!
Gobeithio y gallwch ymuno â ni! 🏳️🌈 🏳️⚧️
Butterfly Soup with Fay
Mae Butterfly Soup yn fan creadigol ar gyfer y Gymuned LHDTCRA+ a’i chynghreiriaid. Rydym yn myfyrio, yn symud, yn creu pethau rhyfeddol, yn yfed te ac yn siarad o’r galon. Dyma fan diogel creadigol sy’n derbyn ac yn meithrin. Mae hefyd yn hygyrch o ran BSL (Iaith Arwyddion Prydain). Seilir y sesiwn ar roddion, diolch i’r People’s Health Trust, ein cyllidwyr.
Elusen annibynnol yw People's Health Trust. Mae'n buddsoddi mewn cymunedau lleol er mwyn helpu i greu cymdeithas heb anghydraddoldebau iechyd drwy gyllid, cymorth a defnyddio tystiolaeth ac addysg i ysgogi newid. Mae'n cydweithio'n agos â chwe Chwmni Buddiannau Cymunedol, gan godi arian drwy The Health Lottery.
Mae Butterfly Soup yn rhan o fenter Active Communities ein cyllidwyr: Rhaglen gyllido ar gyfer pobl leol sydd â syniadau gwych o ran sut i helpu i greu lleoedd tecach i dyfu, byw, gweithio a heneiddio'n dda ynddynt yw Active Communities.
☆ ☆ ☆ ☆ ☆
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: What is contemporary dance?
Mae natur dawns gyfoes yn wrthryfelgar! Fe'i crëwyd mewn ymateb i reolau tyn bale a mathau eraill o ddawns. Mae'n fynegiannol, ac wedi ei hysbrydoli gan amrywiol fathau o ddawns ond yn bwysicaf oll mae' n rhoi rhyddid i chi ddehongli symudiad yn eich ffordd unigryw chi eich hun.