Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Butterfly Soup with Faye Tan – Mar 31stButterfly Soup with Faye Tan – Mar 31st
Mae Faye yn hwyluso Butterfly Soup ar ddydd Llun 31 Mawrth 7-8:30pm 🦋
"Byddaf yn archwilio a rhannu y gwaith ymchwil i symudiadau rwy’n gweithio arno, sy’n ymdrin â phrofiad gonest o deimlo pwysau ffisegol rhannau’r corff, a dod o hyd i gyflyrau tensiwn a rhyddhad gyda’r cyhyrau i ennyn synnwyr o gatharsis."
Llun: Kirsten McTernan
Butterfly Soup with Faye Tan
Mae Butterfly Soup yn fan creadigol ar gyfer y Gymuned LHDTCRA+ a’i chynghreiriaid. Rydym yn myfyrio, yn symud, yn creu pethau rhyfeddol, yn yfed te ac yn siarad o’r galon. Dyma fan diogel creadigol sy’n derbyn ac yn meithrin. Mae hefyd yn hygyrch o ran BSL (Iaith Arwyddion Prydain). Seilir y sesiwn ar roddion, diolch i’r People’s Health Trust, ein cyllidwyr.
Elusen annibynnol yw People's Health Trust. Mae'n buddsoddi mewn cymunedau lleol er mwyn helpu i greu cymdeithas heb anghydraddoldebau iechyd drwy gyllid, cymorth a defnyddio tystiolaeth ac addysg i ysgogi newid. Mae'n cydweithio'n agos â chwe Chwmni Buddiannau Cymunedol, gan godi arian drwy The Health Lottery.
Mae Butterfly Soup yn rhan o fenter Active Communities ein cyllidwyr: Rhaglen gyllido ar gyfer pobl leol sydd â syniadau gwych o ran sut i helpu i greu lleoedd tecach i dyfu, byw, gweithio a heneiddio'n dda ynddynt yw Active Communities.
☆ ☆ ☆
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: Tell me more about your connection to the BSL community
We have a strong connection with the British Sign Language (BSL) community and offer BSL-interpreted events and classes to ensure that our programs are accessible to the deaf and hard of hearing. If you require BSL interpretation, please let us know in advance.