Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd

Welcome to a session with Cai (2-hours)

Welcome to a session with Cai (2-hours)


“Dechrau o fan hyn... Gweithdy mewn symud, dawns a dychymyg”

Mae hon yn fan greadigol, ddiogel ar gyfer unigolion cwiar. Rydym hefyd yn croesawu pobl sy’n gynghreiriaid.

Dyddiad y sesiwn: 24 Ebrill 2023
Amser y sesiwn: 6:30-8:30pm

Rydym yn croesawu symudwyr profiadol ac unigolion lled brofiadol neu unigolion nad oes ganddynt brofiad o symud/dawns.

Ariennir gan:
Cyngor Celfyddydau Cymru

This product is currently out of stock and unavailable.

Croeso i sesiwn gyda Cai

Cefndir y sesiwn a’r hwylusydd:

Yn ein dawns, beth am i ni ddechrau o fan hyn?
Y diwrnod hwnnw, y foment honno, yr anadl honno, yr ystum hwnnw?
Sut mae’n teimlo i wrthod yn llwyr y syniad ein bod yn gorfod mynd i unrhyw le, neu obeithio i unrhyw beth ddigwydd, efallai gall ein dawnsio ddod i’r wyneb o dderbyn ein hunain, yn union fel yr ydym ar y diwrnod hwnnw.
Efallai bod y ddawns yno'n barod, yn disgwyl y tu mewn i ni’n amyneddgar inni ddilyn yr ysgogiadau sydd eisiau digwydd. Beth petawn ni’n dechrau gyda’r hyn sy’n teimlo’n dda, yr hyn sy’n bleserus, a mynd o'r fan honno? Mae’n rhywle diniwed a rhwydd, mae plant yn aml yn dangos i oedolion sut i fynd ati, drwy chwarae rhydd, drwy ddilyn beth sy’n bywiogi ein chwilfrydedd.

Mewn gwirionedd, mae’r gweithdy’n ymwneud â gwrando’n astud ar sut mae ein sylw’n symud a sut rydym yn symud gyda'n sylw. Y syniad yw bod yn agored i chwarae drwy strwythurau byrfyfyr syml sy’n pwysleisio ac sy’n cefnogi’r cydgyfeiriad rhwng ymdeimlad, dychymyg a chysylltiad â lle a sut ydym ni.

Fy enw i yw Cai, ac rwy’n artist cwiar, cydryweddol, Cymraeg. Rwy’n defnyddio’r rhagenwau (ef/ yntau). Yn y bôn, mae fy ngwaith yn ymwneud â symudiad, ar bob ffurf. Rwy’n tueddu i symud rhwng gwahanol ffurfiau celfyddydol sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau ar fy ymarfer, ond yn y bôn, y dychymyg, a’i gysylltiad â’n cyrff, sy’n mynd â fy mryd. Mae gen i hefyd ddiddordeb mewn iechyd ac iacháu, a sut mae'r celfyddydau'n ein helpu ni i ddod o hyd i'r hyn nad ydym yn gwybod ein bod ni'n chwilio amdano’n aml iawn. Mae pobl yn bodoli mewn pob lliw a llun, ac rydym i gyd yn gweld ac yn profi’r byd, ein llawenydd a’n llymder, mewn gwahanol ffyrdd. Yn fwy na dim, mae’r celfyddydau’n ein helpu i wrando, a drwy wneud hynny, drwy wrando go iawn, rydym yn rhannu peth o’n natur ddynol gyffredin, sef bod gyda'n gilydd yn y byd ar y foment honno, ac yr adegau hyn sy’n ein helpu i ganfod a chreu ystyr wrth inni fynd o un dydd i’r llall... www.caitomos.com

Ariennir gan:
Cyngor Celfyddydau Cymru


Rydym yn falch o fod yn sicrhau bod ein gwefan ar gael yn Gymraeg.

Mae’r wefan yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac nid yw'n edrych yn berffaith. Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn ac rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu'r wefan orffenedig gyda chi yn fuan iawn!

Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.

FAQ: How can I register for classes and events

To register for our classes and events, look thro our timetable and select the specific class or event you’re interested in. You’ll find registration information and payment options there.

0
    0
    Eich Bag
    Your bag is emptyAll Classes & Events