Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Butterfly Soup with Alys – Mar 3rdButterfly Soup with Alys – Mar 3rd
Mae Alys yn hwyluso Butterfly Soup ar ddydd Llun 3 Mawrth 7-8:30pm 🦋
Byddwn yn archwilio ein cysylltiad gyda natur drwy ymarferion chwareus sy’n cynnig cyfle i fod yn ddigymell, i groesawu methiant ac i annog ein dychymyg i redeg yn rhydd!
Ysgogir Alys gan bwysigrwydd chwarae a chreadigrwydd sy’n seiliedig ar brosesau,er mwyn atal yr ymddygiadau anhyblyg rydym wedi eu dysgu - sy’n aml yn cael eu gosod er mwyn bod yn ‘ddinasyddion moesol mewn cymdeithas fodern’, gan ystyried sut y gallwn ddod yn nes at ein natur wyllt mewnol.
Gyda chefndir mewn symudiadau a’r theatr, bydd Alys yn dod â thechnegau i fagu hyder wrth ddefnyddio ein lleisiau, yn ogystal ag adrodd straeon i archwilio’r ffiniau rhwng ein cyrff dynol a natur mewn ffordd chwareus.
Inspired by queer ecology, we’ll be asking;
Wedi’n hysbrydoli gan ecoleg cwiar, byddwn yn gofyn; Sut y daethom i gael ein hadnabod fel bodau dynol, a choed fel coed? Beth pe baem yn llai o ddau beth gwahanol, ac yn fwy o rywbeth tebyg?
Gobeithio y gallwch ymuno â ni! 🏳️🌈 🏳️⚧️
Butterfly Soup with Alys
Mae Butterfly Soup yn fan creadigol ar gyfer y Gymuned LHDTCRA+ a’i chynghreiriaid. Rydym yn myfyrio, yn symud, yn creu pethau rhyfeddol, yn yfed te ac yn siarad o’r galon. Dyma fan diogel creadigol sy’n derbyn ac yn meithrin. Mae hefyd yn hygyrch o ran BSL (Iaith Arwyddion Prydain). Seilir y sesiwn ar roddion, diolch i’r People’s Health Trust, ein cyllidwyr.
Elusen annibynnol yw People's Health Trust. Mae'n buddsoddi mewn cymunedau lleol er mwyn helpu i greu cymdeithas heb anghydraddoldebau iechyd drwy gyllid, cymorth a defnyddio tystiolaeth ac addysg i ysgogi newid. Mae'n cydweithio'n agos â chwe Chwmni Buddiannau Cymunedol, gan godi arian drwy The Health Lottery.
Mae Butterfly Soup yn rhan o fenter Active Communities ein cyllidwyr: Rhaglen gyllido ar gyfer pobl leol sydd â syniadau gwych o ran sut i helpu i greu lleoedd tecach i dyfu, byw, gweithio a heneiddio'n dda ynddynt yw Active Communities.
☆ ☆ ☆ ☆ ☆
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: What kind of classes and events do you offer
We offer a wide variety of classes and events, including but not limited to dance, theater, visual arts, and music. Our schedule is diverse to cater to all interests and skill levels.