Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Cwrs Darlunio Ffigur 4-wythnos - MaiCwrs Darlunio Ffigur 4-wythnos - Mai
£8.50 – £30.00
Yn dechrau: DYDD MERCHER, 8 MAI 2024 AM 19:15
Yn cynnwys model gwahanol bob wythnos, bydd gennym gyfle i ddarlunio a chreu delweddau gyda’n gilydd.
Bydd pwyslais ar lesiant a mwynhad drwy archwiliad creadigol wrth gyfleu’r ffigur wedi’i wisgo.
Yn ôl yr arfer, bydd ein tiwtor yn sicrhau amgylchedd diogel, cymunol a chefnogol i chi allu ymlacio ynddo, gan alluogi eich creadigrwydd i ddatblygu.
Ym mhob sesiwn bydd gennym gyfle i ddefnyddio gwahanol gyfryngau artistig. Darperir yr holl ddeunyddiau fel rhan o gost y cwrs.
Wythnos 1 (8 Mai): pensil
Wythnos 2 (15 Mai): siarcol a sialc
Wythnos 3 (22 Mai): pastelau ysgafn
Wythnos 4 (29 Mai): pensil a dyfrlliw
Cost y cwrs yw £25, neu £10 i rai sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw a rhai sydd â Phasys Caledi.
Bydd cymorth cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain ar gael bob wythnos.
Sylwer: nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly cofiwch drefnu lle ymlaen llaw rhag ofn ichi gael eich siomi.
Pethau'r Gwanwyn: Cwrs Arlunio a Chrefft 4 wythnos gyda Caroline Richards
Bydd Caroline yn rhoi arweiniad i chi gyda chynllunio, darlunio a braslunio eich eitemau ysbrydoledig gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau. Yna byddwch yn symud tuag at gynllunio 3D gan ddefnyddio ffelt, ffabrig a phwytho er mwyn dod â’ch creadigaeth yn fyw!
Gwybodaeth Ychwanegol
Weight | N/A |
---|
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: What is contemporary dance?
Mae natur dawns gyfoes yn wrthryfelgar! Fe'i crëwyd mewn ymateb i reolau tyn bale a mathau eraill o ddawns. Mae'n fynegiannol, ac wedi ei hysbrydoli gan amrywiol fathau o ddawns ond yn bwysicaf oll mae' n rhoi rhyddid i chi ddehongli symudiad yn eich ffordd unigryw chi eich hun.