Yn dechrau: DYDD MERCHER, 8 MAI 2024 AM 19:15
Yn cynnwys model gwahanol bob wythnos, bydd gennym gyfle i ddarlunio a chreu delweddau gyda’n gilydd.
Bydd pwyslais ar lesiant a mwynhad drwy archwiliad creadigol wrth gyfleu’r ffigur wedi’i wisgo.
Yn ôl yr arfer, bydd ein tiwtor yn sicrhau amgylchedd diogel, cymunol a chefnogol i chi allu ymlacio ynddo, gan alluogi eich creadigrwydd i ddatblygu.
Ym mhob sesiwn bydd gennym gyfle i ddefnyddio gwahanol gyfryngau artistig. Darperir yr holl ddeunyddiau fel rhan o gost y cwrs.
Wythnos 1 (8 Mai): pensil
Wythnos 2 (15 Mai): siarcol a sialc
Wythnos 3 (22 Mai): pastelau ysgafn
Wythnos 4 (29 Mai): pensil a dyfrlliw
Cost y cwrs yw £25, neu £10 i rai sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw a rhai sydd â Phasys Caledi.
Bydd cymorth cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain ar gael bob wythnos.
Sylwer: nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly cofiwch drefnu lle ymlaen llaw rhag ofn ichi gael eich siomi.