Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Tango’r Ariannin I Ddechreuwyr - (Mawrth-Ebrill)Tango’r Ariannin I Ddechreuwyr - (Mawrth-Ebrill)
£9.00 – £40.00
Cwrs 6 wythnos, yn dechrau nos Iau 21 Mawrth
Nos Iau 6:30pm tan 7:30pm
Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr, gan gynnwys y rhai cwbl ddibrofiad, a'r rhai sy’n dymuno canolbwyntio ar dechnegau sylfaenol.
£40 am y cwrs cyfan (Bydd galw heibio yn costio £9 os bydd lle ar gael)
Nid oes angen partner arnoch.
Tango’r Ariannin i Ddechreuwyr
Dawns gymdeithasol fyrfyfyr yw Tango’r Ariannin. Mae’r dosbarth hwn yn ceisio rhoi’r technegau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i allu dawnsio gyda dawnsiwr tango arall mewn lleoliad cymdeithasol.
Bydd y dosbarth yn ymdrin ag elfennau o’r ddawns tango megis arwain a dilyn, y goflaid, cerdded, ystumio ac adlamu.
Dillad:
Gwisgwch ddillad cyfforddus sy'n eich caniatáu i symud yn rhwydd. Mae gwisgo haenau yn beth doeth hefyd, oherwydd byddwch yn sicr o chwysu wrth ddawnsio.
Esgidiau:
Esgidiau meddal a fydd yn caniatáu i chi lithro’n rhwydd o un ystum i’r llall neu droi ar un droed. I’r rhai sy’n dymuno canolbwyntio ar ddilyn byddai esgidiau sodlau uchel o fantais, ond nid yn angenrheidiol.
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: Who can attend Ardour Academy’s classes and events
Everyone is welcome at Ardour Academy! We are proud of our inclusive environment and encourage people of all backgrounds and abilities to join us.