Gobeithio bydd modd i chi ymuno â ni ar gyfer ein cwrs 6 wythnos i ddechreuwyr!
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal ar ddyddiau Mercher 8:30-9:30pm. Bydd cyfle i chi ymarfer tan 10pm os hoffech chi aros ar ôl y sesiwn a dod i adnabod pawb yn well 🥰
Dyddiadau'r dosbarth yw:
6ed, 13eg, 27ain o Fawrth a 3ydd, 10fed a 24ain o Ebrill.
*Sylwer nad oes sesiynau ar yr 20fed o Fawrth a'r 17eg o Ebrill.
Bydd y cwrs cyfan yn costio £40, sydd tua £6.50 y dosbarth.
Mae'n addas ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â'r rhai sydd â rhywfaint o brofiad salsa.
Bydd cymorth cyfathrebu BSL ar gael yn y sesiynau hyn.