Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Butterfly Soup with Izzy – Mar 24thButterfly Soup with Izzy – Mar 24th
Mae Izzy yn hwyluso Butterfly Soup ar ddydd Llun 24 Mawrth 7-8:30pm 🦋
Cysylltu â’r ddaear, tynnu’ch masg, chwarae!
Yn ystod y sesiwn hon, bydd Izzy yn rhannu rhai o’r technegau a ddefnyddir i dynnu’ch masg a chysylltu â’ch ochr chwareus (ellyll bach direidus). Byddwn yn chwarae â chlai a chysylltiad/cael ein dal gan y ddaear.
Hwylusydd celfyddydau a chyfathrebwr gwyddoniaeth yw Izzy, ac mae’n siarad yn aml am ba mor hynod yw ffyngau. Mae ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi pobl i gysylltu â’u hunain a’u cymdogion mwy-na-dynol.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni! 🏳️🌈 🏳️⚧️
Butterfly Soup with Fay
Mae Butterfly Soup yn fan creadigol ar gyfer y Gymuned LHDTCRA+ a’i chynghreiriaid. Rydym yn myfyrio, yn symud, yn creu pethau rhyfeddol, yn yfed te ac yn siarad o’r galon. Dyma fan diogel creadigol sy’n derbyn ac yn meithrin. Mae hefyd yn hygyrch o ran BSL (Iaith Arwyddion Prydain). Seilir y sesiwn ar roddion, diolch i’r People’s Health Trust, ein cyllidwyr.
Elusen annibynnol yw People's Health Trust. Mae'n buddsoddi mewn cymunedau lleol er mwyn helpu i greu cymdeithas heb anghydraddoldebau iechyd drwy gyllid, cymorth a defnyddio tystiolaeth ac addysg i ysgogi newid. Mae'n cydweithio'n agos â chwe Chwmni Buddiannau Cymunedol, gan godi arian drwy The Health Lottery.
Mae Butterfly Soup yn rhan o fenter Active Communities ein cyllidwyr: Rhaglen gyllido ar gyfer pobl leol sydd â syniadau gwych o ran sut i helpu i greu lleoedd tecach i dyfu, byw, gweithio a heneiddio'n dda ynddynt yw Active Communities.
☆ ☆ ☆ ☆ ☆
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: What should I do if I have additional questions or need assistance
If you have any more questions or need assistance with anything related to Ardour Academy, please reach out to our friendly team via e-bost or phone. We’re here to help and ensure you have a fantastic experience with us!