Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Argentine Tango Course with Mark & Katherine – April 2025Argentine Tango Course with Mark & Katherine – April 2025
£9.00 – £40.00
Start: Thursday 10 Apr 2025 from 18:30-19:30
Dawns gymdeithasol fyrfyfyr yw Tango’r Ariannin. Mae’r cwrs hwn yn ceisio rhoi’r technegau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i allu dawnsio gyda dawnsiwr tango arall mewn lleoliad cymdeithasol.
Pryd:
Thursdays 10/04 – 15/05
6:30pm – 7:30pm
Lle:
Ardour Academy, Wellfield Road, Cardiff, CF24 3PE
Nid oes angen partner arnoch!
Cwrs Tango Ariannin gyda Mark a Katherine
Bydd y dosbarth yn ymdrin ag elfennau o’r ddawns tango megis arwain a dilyn, y goflaid, cerdded, ystumio ac adlamu.
Mae Tango Ariannin yn gyfle gwych i gael hwyl gyda ffrindiau hen a newydd, mynegi eich creadigrwydd, ac ymgolli yng nghymuned gyfeillgar a chroesawgar Tango De Cymru a gweddill y DU.
Mae’r dosbarth yn addas i ddechreuwyr, gan gynnwys y rhai cwbl ddibrofiad, a'r rhai sy’n dymuno canolbwyntio ar dechnegau sylfaenol.
Dillad:
Gwisgwch ddillad cyfforddus sy'n eich caniatáu i symud yn rhwydd. Mae gwisgo haenau yn beth doeth hefyd, oherwydd byddwch yn sicr o chwysu wrth ddawnsio.
Esgidiau:
Esgidiau meddal a fydd yn caniatáu i chi lithro’n rhwydd o un ystum i’r llall neu droi ar un droed. I’r rhai sy’n dymuno canolbwyntio ar ddilyn byddai esgidiau sodlau uchel o fantais, ond nid yn angenrheidiol.
☆ ☆ ☆ ☆ ☆
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: How does Ardour Academy support the LGBTQ+ community
Ardour Academy is committed to creating a welcoming and supportive environment for the LGBTQ+ community. We offer LGBTQ+ inclusive events and work continuously to promote diversity and inclusion.