Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Cwrs Tango Ariannin 6 wythnos - Medi-HydrefCwrs Tango Ariannin 6 wythnos
Dawns gymdeithasol fyrfyfyr yw Tango’r Ariannin. Mae’r cwrs hwn yn ceisio rhoi’r technegau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i allu dawnsio gyda dawnsiwr tango arall mewn lleoliad cymdeithasol.
Bydd y dosbarth yn ymdrin ag elfennau o’r ddawns tango megis arwain a dilyn, y goflaid, cerdded, ystumio ac adlamu.
Mae’r cwrs yn addas i ddechreuwyr, gan gynnwys y rhai cwbl ddibrofiad, a'r rhai sy’n dymuno canolbwyntio ar dechnegau sylfaenol.
Dillad:
Gwisgwch ddillad cyfforddus sy'n eich caniatáu i symud yn rhwydd. Mae gwisgo haenau yn beth doeth hefyd, oherwydd byddwch yn sicr o chwysu wrth ddawnsio.
Esgidiau:
Esgidiau meddal a fydd yn caniatáu i chi lithro’n rhwydd o un ystum i’r llall neu droi ar un droed. I’r rhai sy’n dymuno canolbwyntio ar ddilyn byddai esgidiau sodlau uchel o fantais, ond nid yn angenrheidiol.
☆ ☆ ☆ ☆ ☆
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: How can I register for classes and events
To register for our classes and events, look thro our timetable and select the specific class or event you’re interested in. You’ll find registration information and payment options there.