Mae Emily yn Artist Gweledol Byddar sy’n archwilio byd bywiog Opgelfyddyd. Mae ei hangerdd dros wneud celf yn hygyrch i’r gymuned Fyddar yn ei hysgogi i wthio ffiniau dirnadaeth ac ennyn diddordeb cynulleidfaoedd yn ei chreadigaethau deinamig a gweledol-ysgogol.
Bydd Emily’n arwain gweithdy creadigol lle byddwn yn defnyddio amseryddion ac ystod amrywiol o gerddoriaeth a dirgryniadau i danio ysbrydoliaeth. Drwy dechnegau cyfryngau cymysg - gan gynnwys rhwygo papur, gwaith ar y cyd, lluniadu, a chreu gwrthrychau 3D - byddwch yn archwilio ffyrdd newydd o fynegi eich hun ac yn gwthio ffiniau creadigol.