Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Cwrs Dawns Gyfoes 4 wythnos gyda Karol: Y Graff YmdrechCwrs Dawns Gyfoes 4 wythnos gyda Karol: Y Graff Ymdrech
£8.00 – £28.00
Dechrau: DYDD LLUN, 4 MAWRTH 2024 O 18:30-19:30
Cwrs lefel agored yw hwn, a chroesewir unigolion o bob profiad a gallu 🥰
Wythnos 1 (4/3/24) – GOFOD: Dewch i ddysgu am ofod yn y dosbarth dawns gyfoes hwn, a ysbrydolir gan y Graff Ymdrech, lle bydd ymgyfuno symudiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol yn gwahodd y cyfranogwyr i archwilio’r rhyngsymudiad rhwng eu cyrff a’r lle o’u hamgylch, gan feithrin mynegiant artistig ac ymwybyddiaeth ofodol gryfach.
Wythnos 2 (11/3/24) – PWYSAU: Treiddiwch i fyd cymhleth a diddorol pwysau yn y profiad dawns gyfoes hwn. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o’r Graff Ymdrech, bydd y cyfranogwyr yn archwilio’r cyferbyniad rhwng symudiadau trwm ac ysgafn, gan ddarganfod yr effaith ddofn a gaiff dynameg pwysau ar fynegiant unigol a choreograffi’r grŵp.
Wythnos 3 (18/3/24) – AMSER: Yn y dosbarth dawns gyfoes adfywhaol hwn, bydd y cyfranogwyr yn defnyddio grym amser fel elfen goreograffig. Bydd cyfosod symudiadau cyflym ac estynedig, a ysbrydolir gan y Graff Ymdrech, yn herio’r dawnswyr i wthio’u gallu corfforol i’r eithaf tra’n meistroli’r gelfyddyd sydd ynghlwm wrth amrywiadau amser dynamig a rheoledig.
Wythnos 4 (25/3/24) – LLIF: Dewch i brofi cyfuniad di-dor o symudiadau cyson a chyfyngedig yn y dosbarth dawns gyfoes hwn, lle byddwn yn defnyddio’r Graff Ymdrech fel arweiniad. Byddwn yn archwilio’r cytgord sy’n bodoli rhwng llyfnder ac anystwythder. Bydd y cyfranogwyr yn dod o hyd i ryddid mewn symudiadau dilyffethair tra’n darganfod pa mor hardd yw dawns ddisgybledig a phwrpasol.
Cwrs Dawns Gyfoes 4 wythnos gyda Karol: Y Graff Ymdrech
Mae Karol Cysewski yn athro dawns llawn angerdd ac ymroddiad. Mae’n enwog am ei ddull arloesol ac am roi sylw mawr i greadigrwydd a thechneg, gan ddatblygu hyder myfyrwyr a’u gorfoledd mewn symud.
*Cysyniad oddi mewn i Ddadansoddiad Symudiadau Laban (LMA) yw’r Graff Ymdrech. Datblygwyd LMA gan Rudolf Laban ar gyfer dadansoddi a disgrifio symudiadau dynol. Mae’r Graff Ymdrech yn mynd ati’n benodol i gategoreiddio symudiadau yn bedair elfen, sef: Gofod, Pwysau, Amser a Llif.
Defnyddir y Graff Ymdrech i ddadansoddi dawns a symudiadau er mwyn deall a dosbarthu nodweddion symudiadau, gan gynnig fframwaith i goreograffwyr a dawnswyr ar gyfer creu a chyfathrebu gwahaniaethau cynnil yn eu perfformiadau. See less
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: What is Ardour Academy
Ardour Academy is a not-for-profit organisation located in Caerdydd, Wales, dedicated to connecting people through the arts. We offer a diverse range of classes and events, fostering creativity and a sense of community.