Darganfod Ardour: Lles, Dawns a Chreadigrwydd yng Nghaerdydd
Pethau'r Gwanwyn: Cwrs Arlunio a Chrefft 4 wythnos gyda Caroline RichardsPethau'r Gwanwyn: Cwrs Arlunio a Chrefft 4 wythnos gyda Caroline Richards
£7.00 – £25.00
Yn dechrau: DYDD MERCHER, 3 EBRILL 2024 AM 19:15
Cwrs Darlunio & Crefft 4 wythnos “Teganau’r Gwanwyn” yn defnyddio ffelt a phwytho.
Wythnos 1 (03/04): Sgwarnogod gwallgo’r gwanwyn, adar yn nythu, pryfetach adenydd siderog... Mae’r Gwanwyn yn dymor sy’n dod â digonedd o ysbrydoliaeth! Byddwn yn dechrau drwy gynllunio ein creadur ffelt cwiltiog ar bapur.
Wythnos 2 a 3 (10/04 a 17/04): Bydd ein tocin Gwanwyn yn cael ei wneud o 2 ddarn o ffelt wedi eu torri’n unffurf. Mae wythnos 2 a 3 ar gael i ni ddechrau bod yn greadigol gyda’n pwytho... o bosib lliwiau plu, neu fotiff celtaidd? Ychwanegwch lygad ffelt ar bob ochr.
Wythnos 4 (24/04): Defnyddiwch bwyth blanced i uno’r ddau ddarn o ffelt gan ddefnyddio ffibr i’w lenwi fel ei fod yn solat. Ychwanegwch gortyn i’w hongian.
Cost y cwrs yw £25, neu £10 i rai sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw a rhai sydd â Phasys Caledi.
Bydd cymorth cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain ar gael bob wythnos.
Sylwer: nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly cofiwch drefnu lle ymlaen llaw rhag ofn ichi gael eich siomi.
Pethau'r Gwanwyn: Cwrs Arlunio a Chrefft 4 wythnos gyda Caroline Richards
Bydd Caroline yn rhoi arweiniad i chi gyda chynllunio, darlunio a braslunio eich eitemau ysbrydoledig gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau. Yna byddwch yn symud tuag at gynllunio 3D gan ddefnyddio ffelt, ffabrig a phwytho er mwyn dod â’ch creadigaeth yn fyw!
Gwybodaeth Ychwanegol
Weight | N/A |
---|
Noder! Oni bai ein bod yn canslo'r dosbarth neu'n cael eich cynghori i hunan-ynysu trwy Track & Trace, nid ydym yn cynnig ad-daliadau na chyfnewid credydau ar ein dosbarthiadau.
FAQ: How can I stay updated with Ardour Academy’s schedule and news
You can stay up to date by subscribing to our newsletter, or connecting with us on Facebook, Instagram or LinkedIn. We regularly post updates on our classes, events, and other exciting news.